Y diweddar Robert Mansfield
Mae heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i ddyn yn ei arddegau farw yn Sir Benfro ddydd Llun diwetha’.

Y gred ydi i Robert Mansfield o Benfro fynd i drafferthion yn y pwll sy’n cael ei nabod yn lleol fel ‘Mill Pond’.

“Mae ymchwiliad wedi dangos fod yna nifer o bobol yn ardal y Mill Pond ar yr amser dan sylw,” meddai datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys.

“Fe fyddai swyddogion yn gwerthfawrogi sgwrs gydag unrhyw un oedd yn yr ardal yn ystod oriau mân dydd Llun, Gorffennaf 27, rhwng 2yb a 2.45yb.”

Dyw marwolaeth Mr Mansfield ddim yn cael ei thrin fel un amheus.