Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o geisio llofruddio, wedi achos o saethu yn Aberpennar ddydd Sul diwetha’.
Fe gafodd Mark Jones, 43, ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad mewn cilfan ar Heol Newydd nos Sul.
Mae Stephen Bennett, 51, o Bontypridd, ac Edward Bennett, 46, o Aberpennar, hefyd wedi’u cyhuddo o fod â gwn yn eu meddiant.
Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd fore heddiw.
Mae trydydd dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.