Dafydd Elis-Thomas
Ni fydd Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru, sy’n cyfarfod yfory, yn trafod dyfodol yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi’r cwbwl.
Er iddo dderbyn pleidlais o gefnogaeth amodol nos Fawrth gan aelodau ei etholaeth yn Nwyfor Meirionydd, roedd disgwyl i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol ei blaid drafod y cwynion amdano yfory.
Bu’r Arglwydd yn destun camau disgyblu ar ôl iddo feirniadu ymgyrch etholiadol y Blaid yn gyhoeddus.
Roedd amheuaeth a fyddai Dafydd Elis-Thomas yn cael parhau i sefyll yn enw’r Blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad fis Mai.
Ond prynhawn yma mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad moel yn dweud fod y “trafodaethau wedi dod i ben.
“Mae cytundeb mewn lle rhwng yr etholaeth, Dafydd Elis-Thomas a’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Ni fyddwn yn gwneud datganiadau pellach ar y mater hwn.”