Albert Owen
Mae aelodau plaid Lafur Ynys Môn wedi dewis cefnogi’r Aelod Seneddol asgell chwith Jeremy Corbyn yn swyddogol fel yr ymgeisydd gorau i arwain yr wrthblaid.

Mewn cyfarfod ym Mhorthaethwy nos Fercher diwethaf pleidleisiodd aelodau o blaid Jeremy Corbyn a Stella Creasy AS, sy’n sefyll i fod yn ddirprwy arweinydd.

Mae AS Llafur Ynys Môn, Albert Owen, wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn cefnogi’r AS Andy Burnham fel arweinydd a Caroline Flint fel dirprwy.

Nid oedd Albert Owen yn y cyfarfod nos Fercher ac eglurodd mewn llythyr i’r aelodau ei fod ar ‘wyliau teuluol’.

Yn ei lythyr roedd yn erfyn ar yr aelodau i ddewis Andy Burnham oherwydd ei fod yn gallu ‘cysylltu’ gyda chyn-gefnogwyr y blaid Lafur a chefnogwyr newydd er mwyn ennill etholiad 2020.

Corbyn ar y brig

Yn y dyddiau diwethaf mae’r bwcis wedi gorseddu Jeremy Corbyn yn ffefryn i ennill y ras i arwain yr wrthblaid.

Mae polau piniwn wedi datgan bod dewis yr undebau llafur  gyda 43% o’r gefnogaeth, ymhell ar y blaen i’r rhai eraill yn y ras: Andy Burnham 26%, Yvette Cooper 20% a Liz Kendal 11%.