Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhybuddio Prif Weinidog Cymru bod cynyddu costau cludiant i bobl ifanc mewn addysg, am effeithio’r Gymraeg.

Ysgrifennodd Meri Huws lythyr at Carwyn Jones yn datgan ei phryder yn dilyn ymchwiliad gan ei swyddfa.

Mae nifer o gynghorau wedi ymateb i’r Arolwg ‘Cludiant i ddysgwyr ôl 16’ gan y Comisiynydd, trwy ddweud eu bod wedi codi costau cludiant ôl-16 o £60 i £300 y flwyddyn.

Y broblem sy’n codi yw bod yn rhaid i ddisgyblion yn aml deithio’n bellach i fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg  ac mae’r adroddiad yn nodi bod 50% neu fwy o ddysgwyr ôl-16 yn dibynnu ar gludiant.

Goblygiadau Tymor Hir

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mae cynyddu costau yn gallu cael effaith “andwyol ac anghymesur” ar y rhai sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ei llythyr mae Meri Huws yn dweud: ‘Nodir yn fy adroddiad nad yw’n eglur a yw pob awdurdod, wrth asesu effaith newidiadau i drefniant cludiant, yn adnabod y goblygiadau tymor hir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r newidiadau hyn yn fygythiad i weledigaeth y Llywodraeth o dwf parhaus mewn addysg a hyfforddiant Cymraeg ym mhob sector ac ystod oedran.

“Bu’r newidiadau i ddarpariaeth cludiant awdurdodau lleol yn destun pryder ers tro a disgwylir i rieni a dysgwyr barhau i leisio pryderon.’

Mae Meri Huws yn  gofyn i Lywodraeth Cymru roi ‘arweiniad cadarn’ i’r cynghorau sir ac i

‘danlinellu mai mater iaith Gymraeg sydd dan sylw, yn hytrach na mater cludiant yn unig’.

Cynllun i ostwng pris

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i’r llythyr maes o law. Fodd bynnag, mae ein Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn datgan yn glir bod yn rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg wrth ystyried sut y maent yn darparu cludiant i ddysgwyr.

“Ym mis Medi, byddwn yn cyflwyno cynllun ar gyfer teithio ar fws am bris gostyngol i’r holl bobl ifanc yng Nghymru sy’n 16, 17 neu 18 oed, er mwyn iddynt allu teithio i gael addysg, hyfforddiant neu waith.”