Bae'r Tri Chlogwyn,
Mae gwraig Benny Collins, y gŵr 42 oed fu farw ym Mhenrhyn Gŵyr wrth geisio achub ei blentyn naw oed o’r môr, wedi talu teyrnged iddo heddiw.

Fe aeth Benny Collins, oedd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Treforys, i drafferthion ddydd Mawrth wrth geisio achub ei fab yn y môr ger Bae’r Tri Chlogwyn.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ond fe fu farw’n ddiweddarach, yr ail berson i farw mewn amgylchiadau tebyg yn yr un ardal o fewn mis.

‘Dyn caredig ac annwyl’

Mae Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg, Clwb Rygbi Tregŵyr a sawl un o deulu a ffrindiau Benny Collins eisoes wedi talu teyrnged i ŵr “talentog a hael”.

Ac mae ei wraig Melaine Collins, oedd hefyd yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Treforys, bellach wedi talu ei theyrnged hithau.

“Roedd Benny yn ŵr gwych ac yn dad cariadus i’n mab gwych ni Harry,” meddai Melanie Collins.

“Dyw geiriau ddim yn gallu mynegi ein teimladau yn ystod y cyfnod trist hwn. Mae Harry wedi bod mor ddewr ac fe fyddai ei dad mor falch ohono.

“Roedd Benny yn ddyn mor garedig ac annwyl ac roedd pawb oedd yn ei nabod yn hoff iawn ohono. Roedd ei deulu yn Athea, Swydd Limrig yn caru Benny ac mor falch ohono.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r geiriau annwyl a’r cydymdeimladau a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.”

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhybuddio am y peryglon o nofio ar y traeth yno oherwydd y cerrynt cryf.