Yr Ardd Fotaneg
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol o wrthod cyfarfod â nhw gan y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Gymraeg.

Dywed y Gymdeithas fod Rosie Plummer a’r Ardd Fotaneg yn Llanarthne wedi gwneud “ymdrech difrifol i gamarwain y cyhoedd” ynghylch y cyfarfod oedd i’w gynnal yn ddiweddar.

Ond mae Rosie Plummer yn honni iddi wahodd aelodau’r Gymdeithas am gyfarfod ond eu bod nhw wedi gwrthod ei gwahoddiad.

Mewn datganiad, mae Cymdeithas yr Iaith yn gwadu’r honiad.

Cefndir

Mae’r mudiad yn pwyso ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones i ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr Ardd Fotaneg  yn darparu gwasanaethau Cymraeg fel rhan o’r Cynllun Iaith Gwirfoddol.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn nodi fod arwyddion uniaith Saesneg i’w gweld yn yr Ardd, a bod diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith ac i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn grant o tua £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi derbyn £70,000 oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eleni.

 ‘Siarad Cymraeg’

Dywedodd llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith: “Y gwir yw bod y Gymdeithas wedi trefnu cael cyfarfod ag uwch swyddogion yr Ardd ar 23 Gorffennaf, gan nodi y bydden ni’n siarad Cymraeg.

“Roedd hyn yn dilyn cais gan y Gymdeithas am gyfarfod ym mis Ebrill, a sawl trafodaeth ffôn a neges e-bost lle gwnaethon ni nodi yn glir ein bod yn bwriadu siarad Cymraeg yn y cyfarfod.

“Ar ôl i ni gadarnhau’r dyddiad, a’r ffaith y bydden ni’n siarad Cymraeg yn y cyfarfod, ysgrifennodd y pennaeth aton ni gan nodi bod y cyfarfod wedi ei ganslo.

“Gwnaeth yn gwbl glir yn ei llythyr aton ni mai’r rheswm am hynny oedd am ein bod yn dymuno siarad Cymraeg.”

‘Agwedd anffodus’

Dywed y Gymdeithas eu bod nhw wedi galw ar Rosie Plummer i dynnu yn ôl yr honiad mai’r Gymdeithas oedd wedi canslo’r cyfarfod.

Ychwanegodd Manon Elin: “Roedden ni am gwrdd â swyddogion yr Ardd Fotaneg oherwydd cyfres o fethiannau gan yr Ardd i drin y Gymraeg gyda pharch.

“Ar sail ein hymdrechion i drefnu cyfarfod â nhw yn ystod y misoedd diwethaf, mae’n amlwg bod agwedd anffodus yr Ardd tuag at y Gymraeg yn dod o ben uchaf y sefydliad”.

‘Cynnig wedi ei wrthod’

Mewn datganiad dywedodd Dr Rosie Plummer nad oedden nhw wedi gwrthod cynnal cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith.

“Ein syniad ni oedd y cyfarfod… ond cafodd y cynnig ei wrthod,” meddai.

Ychwanegodd bod yr Ardd Fotaneg “wedi’i ymrwymo i hybu, annog a chefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg” ond gan ei fod yn sefydliad ifanc nid oedd yr un adnoddau ganddyn nhw a sefydliadau eraill yng Nghymru ac ar draws y DU.

“Rydym yn gweithio’n galed tuag at yr amcanion yr ydym wedi gosod i ni’n hunain mewn perthynas â’r iaith Gymraeg,” ychwanegodd.