Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion ar ôl i ddyn 43 oed gael ei saethu yn Aberpennar nos Sul.

Cafodd Mark Jones ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol wedi’r digwyddiad.

Mae tri o bobol wedi cael eu harestio hyd yma mewn perthynas â’r achos, ac un ohonyn nhw wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd dyn 51 oed o Bontypridd ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu hefyd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 46 oed a gafodd ei arestio ddydd Llun.

Mae dyn 46 oed o Aberpennar a gafodd ei arestio ddoe wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Tri cherbyd

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Ceri Hughes fod yr heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar Ffordd Newydd Aberpennar i gyfeiriad arhosfan Troadau Lletty Turner am oddeutu 7.30 nos Sul.

“Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan yrwyr tri cherbyd oedd o bosib yn teithio ar y ffordd ar y pryd.

“Mae dau o’r cerbydau’n cael eu disgrifio fel Ford Focus du siâp newydd a cherbyd arian/llwyd.

“Rydym hefyd yn awyddus i siarad â gyrrwr fan wen gydag AMEY wedi’i nodi ar yr ochr ac ysgolion ar y to, oedd wedi mynd i mewn i’r arhosfan tua’r un adeg â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 02920 527 303 neu 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.