Mae Heddlu’r De wedi arestio trydydd dyn mewn cysylltiad â saethu yn Aberpennar nos Sul.

Cafodd dyn 51 oed o Bontypridd ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu hefyd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 46 oed a gafodd ei arestio ddydd Llun.

Mae dyn 46 oed o Aberpennar a gafodd ei arestio ddoe wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Mark Jones, 43 oed, o Aberpennar yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywed Heddlu’r de eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon nos Sul, 26 Gorffennaf.

Yn ôl llygad dystion cafodd dau ergyd o wn eu clywed yn cael eu tanio o gar Audi A3 gwyn tua 7.40yh nos Sul.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 02920 527303 neu 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500271720, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.