Clawr nofel Eiddwen Jones
Bydd yr awdures Eiddwen Jones yn lansio ei nofel newydd Cofiwch Lanwddyn ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yr wythnos nesaf.

Nofel hanesyddol yw hi sydd yn tynnu sylw at hanes boddi Dyffryn Efyrnwy ar ddiwedd y 19eg ganrif er mwyn darparu dŵr glân i ddinas Lerpwl.

Mae boddi cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn yn ddigwyddiad y mae’r rhan fwyaf o Gymry yn gyfarwydd â hi – ond gobaith Eiddwen Jones yw adrodd stori ‘anghyfiawnder’ yr un mor boenus.

Ac mae’r awdures yn cyflwyno’r nofel “er cof am Tecwyn, fy mhriod annwyl am bron i 48 o flynyddoedd, a’i deulu a fu’n byw yn yr hen Lanwddyn cyn y boddi”.

Nid Tryweryn yn unig

Yn ôl yr awdures, hyd yn oed yng nghyfnod y boddi ei hun fe anwybyddwyd trigolion yr ‘Hen Lan’ gan bapurau newydd yr oes.

Mae’r nofel yn “gyfle, felly, i ddweud yr hanes ac i unioni’r cam”, meddai.

“Tristwch ac anghyfiawnder mwyaf yr hanes yw nad oedd gan y pentrefwyr, fel taeogion di-rym, y gallu na’r dylanwad i fedru gwrthwynebu’r trychineb,” meddai Eiddwen Jones.

“Er bod hanes Tryweryn wedi’i serio ar gof y genedl, mae Dyffryn Efyrnwy, ac ing y pentrefwyr, wedi’u hen anghofio erbyn heddiw.”

Bydd ‘Cofiwch Lanwddyn’ yn cael ei lansio yn y Lolfa Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, 4 Awst am 2.00yp.