Yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llythyru at Brif Weinidog Cymru i ofyn am ymyrraeth gyfreithiol i sicrhau bod yr Ardd Fotaneg yn Sir Gaerfyrddin yn darparu gwasanaethau dwyieithog.

Ceisiodd y mudiad iaith gysylltu â’r Ardd Fotaneg yn Llanarthne er mwyn trafod eu pryderon am y diffyg darpariaeth o’r Gymraeg yno.

Ond gwrthododd pennaeth y sefydliad gynnal cyfarfod â nhw yn y Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Nid oes gan yr Ardd Fotaneg wefan gwbl Gymraeg, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni nad yw’r sefydliad yn ymrwymo i’w pholisi iaith.

Maen nhw wedi pwyso ar y Llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn darparu gwasanaethau Cymraeg fel rhan o’r Cynllun Iaith Gwirfoddol.

‘Codi cywilydd’

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg, Rosie Plummer, wedi gofyn i swyddog o’r mudiad i beidio ag ysgrifennu ati yn y Gymraeg.

Mewn achos arall, honnir bod y Cyfarwyddwr wedi dweud nad oedd hi’n barod i gynnal trafodaethau â’r Gymdeithas yn y Gymraeg, a doedd hi ddim yn barod “i  ddarparu nac ariannu gwasanaeth cyfieithu y tro hwn”.

Mae’r sefydliad yn “codi cywilydd”, meddai Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae gan bobl yr hawl cyfreithiol i gyfathrebu â chyrff yn Gymraeg,” ychwanegodd.

Arian cyhoeddus

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn grant o tua £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi derbyn £70,000 oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eleni.

Dywedodd Manon Elin James fod dyletswydd ar y sefydliad i ddarparu gwasanaeth dwyieithog am ei bod yn “derbyn llawer iawn o arian cyhoeddus”.

Mae’r gymdeithas yn nodi hefyd fod arwyddion uniaith Saesneg i’w gweld yn yr Ardd, a bod diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith.

“Rydyn ni hefyd yn meddwl eu bod yn torri’r amod iaith sydd yn eu cytundeb grant [gyda’r Llywodraeth]” , meddai Manon Elin James.

Am hynny, mae’r gymdeithas wedi gofyn am ymyrraeth y prif weinidog, Carwyn Jones, i bwyso ar yr Ardd Fotaneg i weithredu gwasanaethau dwyieithog .

“Bydd hyn yn arwain at greu sefydliad sy’n hwb i’r Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol”, meddai Manon Elin James.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd.