Cynlluniau ar gyfer Harbwr Saundersfoot
Mae cam cyntaf y cynllun i ailddatblygu Harbwr Saundersfoot yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw.

Mae’r prosiect yn cynnwys chwe elfen a fydd yn hwyluso mynediad defnyddwyr cychod i’r harbwr ac yn hybu ymwelwyr i’r ardal.

Fe fydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn lansio’r cynllun yn swyddogol.

Mae gwaith adfywio’r prosiect yn cynnwys adeiladu llithrfa, wal y môr, pontŵn i ymwelwyr a chyfleusterau i angori cychod.

‘Un o drysorau Sir Benfro’

Mae’r cynllun yn rhan o strategaeth ehangach i ailddatblygu’r ardal, adfywio’r pentref, denu ymwelwyr a chreu swyddi newydd yn lleol.

“Mae Harbwr Saundersfoot yn un o drysorau Sir Benfro ers tro byd”, meddai Ken Skates, “ac mae’r datblygiad hwn yn ei helpu i sefydlu’i hun fel cyrchfan forol ryngwladol o ansawdd uchel iawn”, ychwanegodd.

Dywedodd Philip Evans, Cadeirydd Comisiwn yr Harbwr fod y prosiect yn rhan o strategaeth ‘Hwylio Ymlaen’ Ymddiriedolaeth Porthladd Saundersfoot. Roedd e’n falch fod y cynllun wedi gweld golau dydd a bod y gwaith o osod y “seilweithiau morol wedi’u cwblhau’n llwyddiannus”.

Mae’r ymddiriedolaeth yn credu’n gryf fod buddiannau economaidd i’r cynllun wrth iddynt gynllunio i greu canolfan ymwelwyr fel ail ran o’r prosiect.

“Bydd [y prosiect] yn gwella profiad yr ymwelydd yn Saundersfoot ac, yn bwysicach efallai, yn rhoi sicrwydd i’r harbwr yn yr hirdymor”, ychwanegodd y Dirprwy Weinidog.

Datblygiadau pellach

Bellach, mae’r ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar ail ran y prosiect, sef creu canolfan ragoriaeth ar gyfer y sector morol yn Saundersfoot.

Bydd hynny’n sicrhau sylfaen addysgol ar gyfer peirianneg forwrol erbyn y dyfodol ac yn codi ymwybyddiaeth o hanes yr harbwr a’r ardal.

Mae’r prosiect yn costio £927,000, ac mae’r cynllun wedi sicrhau arian oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Philip Evans fod cyfleusterau newydd y cynllun yn fodd i sicrhau bod “harbwr Saundersfoot yn lleoliad y mae’n rhaid ymweld ag o pan ar wyliau yn Sir Benfro.”