Mae lluoedd heddlu Cymru a Lloegr yn gwario mwy ar daliadau goramser o ganlyniad i brinder staff, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae bil am daliadau goramser ar gyfer 39 o luoedd heddlu Cymru a Lloegr wedi cynyddu dros £6 miliwn ers y llynedd, gyda’r cyfanswm yn £1 biliwn dros y tair blynedd diwethaf.

Daw’r ffigurau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC.

Roedd y cyfanswm ar gyfer gwaith goramser ar gyfer y pedair llu yng Nghymru yn £16.9 miliwn yn 2014-15 o’i gymharu â £12 miliwn yn 2013-14.

Cynhadledd Nato

Roedd Heddlu Gwent, a oedd yn rhannu dyletswyddau plismona cynhadledd NATO yng Nghasnewydd y llynedd,  wedi gweld cynnydd o 40% yn eu bil taliadau goramser.

Fe gynyddodd taliadau Heddlu Dyfed Powys o 33% – o £1.85m yn 2013/14 i £2.46m yn 2014-15.

Roedd bil Heddlu’r De wedi cynyddu o £5.2 miliwn y llynedd i £8.4 miliwn eleni. Fe wnaeth cyfanswm taliadau goramser Heddlu Gogledd Cymru hefyd gynyddu o 12% i £3.28m.

Cafodd un swyddog sy’n gweithio i Heddlu’r Metropolitan ei dalu £45,000 am waith goramser yn ystod 2014/15, gyda dros draean y cyfanswm blynyddol yn deillio o Heddlu’r Met yn Llundain, yn ôl y BBC.

Dywedodd Llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Mae Heddlu’r Met wedi ymrwymo i reoli oriau gor-amser, trwy sicrhau gwasanaeth plismona effeithiol, ac o ganlyniad mae yna gwymp mewn gwariant gor-amser yn ystod y blynyddoedd ariannol diwethaf.”