Dafydd Elis-Thomas
Yn ôl adroddiadau, mae Dafydd Elis-Thomas wedi ennill pleidlais o gefnogaeth gan aelodau lleol ei etholaeth yn dilyn cyfarfod arbennig nos Fawrth i drafod ei ddyfodol gyda Phlaid Cymru.

Roedd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru wedi dechrau camau disgyblu yn erbyn cyn-Arweinydd Plaid Cymru, ar ôl iddo wneud sylwadau yn beirniadu ymgyrch y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol.

Wythnos diwethaf, derbyniodd aelodau o’r blaid yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd lythyr yn dweud  y bydd cyfarfod arbennig i ystyried a ddylai Dafydd Elis-Thomas gael aros yn ymgeisydd y blaid yn Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.

Daeth tua 200 o aelodau’r blaid i gyfarfod ym Mhorthmadog neithiwr a deellir eu bod wedi pleidleisio o blaid yr Arglwydd Elis-Thomas ond ei fod yn wynebu galwad i gyfaddawdu.

Roedd prif weithredwr y blaid, Rhuannedd Richards a’r cadeirydd Dafydd Trystan yn y cyfarfod ym Mhorthmadog.

Fe fydd y Pwyllgor Gwaith yn cwrdd eto ddydd Sadwrn i drafod y mater ymhellach.