Llys y Goron Abertawe
Roedd athrawes sydd wedi cael ei chyhuddo o wneud £1,000 y mis drwy werthu nwyddau wedi’u dwyn ar eBay yn mynd i’w swyddfa bost lleol yn rheolaidd, clywodd  rheithgor heddiw.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod cyfrif Mari Richards ar y safle arwerthu ar-lein wedi gwneud bron i £23,000 mewn dwy flynedd – gyda’i chwsmeriaid yn cael cynnig nwyddau ffasiwn am brisiau isel.

Mae’r erlyniad yn honni fod Mari Richards, 37 mlwydd oed, wedi gwerthu nwyddau oedd wedi cael eu dwyn o siop Debenhams – ble roedd ei gŵr Gareth Richards yn gweithio fel swyddog diogelwch.

Clywodd y llys fod Gareth Richards wedi cael ei ddiswyddo  gan y cwmni yn ddiweddarach – wedi iddo gael ei ddal gan gamerâu diogelwch yn y siop. Ers hynny, mae o wedi cyfaddef dwyn eitemau gan gynnwys nwyddau lledr, sbectol haul a watshis.

Mae Mari Richards, o Glais yng Nghwm Tawe, yn gwadu cyhuddiadau o werthu eiddo troseddol rhwng Hydref 2010 a Rhagfyr 2012 gan ddweud bod gan ei gŵr fynediad i’w chyfrif eBay.

Dywedodd Stanley Creaser, cyn-bostfeistr yn Swyddfa Bost leol y cwpl, ei fod wedi dod i adnabod y ddau yn dda ar ôl iddyn nhw ddod i mewn i’w siop yn rheolaidd gyda pharseli.

Clywodd y llys hefyd fod oriawr wedi mynd ar werth ar  eBay tua phedwar diwrnod cyn i Gareth Richards gael ei ddal yn y gwaith, ond ni allai Debenhams gadarnhau mai o siop Abertawe ddaeth y nwyddau oedd yn cael eu gwerthu.

Mae’r achos yn parhau.