Dathlu ym Mhatagonia
Mae Gŵyl y Glaniad yn cael ei gynnal heddiw ym Mhorth Madryn i nodi union gant a hanner o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf lanio ym Mhatagonia ar 28 Gorffennaf 1865.

Bydd trigolion Patagonia yn ail-greu’r diwrnod hanesyddol drwy hwylio cychod, codi baneri a chynnal gweithgareddau ym mae Porth Madryn.

Byddan nhw’n cloi’r ŵyl gyda Chymanfa Ganu i ddathlu’r canmlwyddiant a hanner, ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu yng Nghymru hefyd.

‘Cyngerdd bythgofiadwy’

Neithiwr, bu sioe fawreddog ym Mhorth Madryn i ail-greu’r glaniad, a chafwyd perfformiadau o emynau fel Calon Lân ac Ar lan y môr.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn bresennol yn y gyngerdd, ac fe ddywedodd ei fod “yn gyngerdd bythgofiadwy i ddathlu’r glaniad”.

Mae’r Prif Weinidog yn ymweld â rhannau o Batagonia ar hyn o bryd gan ymuno yn nigwyddiadau’r dathlu.

Nid oedd Arlywydd yr Ariannin, Christina Fernandez de Kirchner, yn medru bod yn bresennol yn y gyngerdd, er iddi gael gwahoddiad, oherwydd salwch.

Cymru

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru hefyd i nodi’r achlysur, gyda chymdeithas Aberystwyth-Esquel wedi paratoi arlwy yn y dref heddiw.

Bydd perfformiadau cerddorol byw, dawnsio tango a darlleniadau o farddoniaeth gan Karen Owen a Mererid Hopwood, o’u cyfrol newydd Glaniad, yn cael eu cynnal yn ystod y dydd.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel, mae bwrlwm y dathlu yn parhau gyda pherfformiad o gynhyrchiad Theatr yr urdd, Mimosa, yn cael ei arddangos.

Mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi trefnu cyfarfodydd yn eu pabell, a bydd trafodaethau, argraffiadau ac atgofion yn cael eu rhannu ar hyd a lled y maes yn ystod yr wythnos.