Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn ne Cymru heddiw.
Bydd y rhybudd melyn mewn grym tan tua 9:00 heno wrth iddyn nhw ddisgwyl gwyntoedd o hyd at 50 milltir yr awr.
Mae’r rhybudd hefyd yn cynnwys gorllewin canolbarth Lloegr a de Lloegr.
Ac wrth i fis Gorffennaf ddod i ben, y darogan yw y bydd mis Awst hefyd yn anwadal gyda thymheredd is na’r arfer ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.