Fe fydd Ap newydd yn cael ei dreialu yn yr Eisteddfod yr wythnos nesaf er mwyn galluogi pobol i wrando ar gyfieithiadau ar-y-pryd drwy eu ffonau symudol.

Ar hyn o bryd mae offer cyfieithu, sydd yn defnyddio clustffonau, yn gallu bod yn ddrud i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a chynadleddau

Ond y gobaith gydag Ap newydd ‘O Glust i Glust’ yw lleihau ar y costau hynny wrth adael i bobol wrando ar y cyfieithiad drwy eu ffôn.

Mae disgwyl i’r dechnoleg gael ei phrofi gan gwmni cyfieith u Cymen yn ystod wythnos yr Eisteddfod mewn amryw o ddigwyddiadau yn dilyn y lansiad ddydd Llun.

Ailgylchu ffonau

Cafodd yr Ap ei ddatblygu gan Fenter Môn a chwmni Geosho o Gaernarfon, ar ôl derbyn nawdd o £13,000 gan Gronfa Technoleg Ddigidol Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Ap newydd yn dal i olygu bod rhaid cael cyfieithydd yn y cyfarfod ond, yn lle’r dechnoleg ddrud bresennol, fe fydd modd y cyfieithydd yn siarad i mewn i ffôn a gall pobl lawrlwytho O Glust i Glust am ddim a gwrando ar y cyfieithydd drwy eu ffonau.

Mae cost yr offer presennol yn gallu bod gymaint â £3,000, gyda £25 arall am bon un o’r clustffonau.

Bydd Cymen, y cwmni cyfieithu, hefyd yn darparu ffonau symudol sydd wedi’u hailgylchu gyda’r Ap arnyn nhw eisoes, ar gyfer pobl sydd heb ei lawrlwytho i’w ffôn nhw.

Mae ffonau symudol y cyfieithydd a’r gwrandawyr yn cysylltu â’i gilydd drwy rwydwaith mewnol eu hunain, gan olygu bod modd defnyddio’r dechnoleg pan nad oes dim signal ffôn na wi-fi.

Monitorau babi

Ar hyn o bryd dim ond ar systemau Android y mae modd cael yr Ap, ond y gobaith yw y bydd ar gael ar system iOS ac eraill yn y dyfodol.

Ac fe eglurodd Dafydd Gruffydd o Fenter Môn fod y syniad wedi dod iddo ar ôl gweld y gallai ffonau symudol weithio mewn modd tebyg i fonitorau babis.

“Bydd yr offer yn addas ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol, ond mae hefyd yn opsiwn hwylus ar yr adegau annisgwyl hynny pan nad yw’r offer traddodiadol wrth law. Yr oll sydd angen arnoch yw ffôn!” esboniodd Dafydd Gruffydd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn gobeithio gweld apiau fel hyn yn cael eu defnyddio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol.

“Pwrpas y Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg drwy dechnoleg,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae O Glust i Glust yn enghraifft berffaith o sut gall technoleg arwain at gynnydd real yn nefnydd yr iaith ar lefel gymunedol.”