Huw Parri
Mae bachgen 10 oed o ardal Talwrn, Ynys Môn oedd wedi bod ar goll drwy’r prynhawn wedi cael ei ganfod yn ddiogel ger ei gartref.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod wedi dod o hyd i Huw Parri, oedd heb gael ei weld ers 12.20 prynhawn ma.

Bu plismyn, hofrennydd yr heddlu a timau achub mynydd gyda chwn yn chwilio am y bachgen drwy’r prynhawn.