Mae Heddlu De Cymru wedi talu teyrnged i un o’i swyddogion cymunedol sydd wedi marw yn Nyfnaint.

Bu farw Stephen Lewis, 41, mewn gwrthdrawiad tra ar wyliau gyda’i deulu yn Nyfnaint.

Fe fu’n gweithio yng Nghastell Nedd yn yr adran ddiogelwch cymunedol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Joe Ruddy bod Stephen Lewis yn swyddog cymunedol gwych: “Roedd yn weithiwr caled, yn frwdfrydig, rhywun oedd wrth ei fodd yn helpu pobl.

“Roedd yn llysgennad gwych i Heddlu De Cymru yn y digwyddiadau cymunedol niferus yr oedd wedi cymryd rhan ynddyn nhw.

“Roedd Steve yn uchel ei barch o fewn y tîm ac mae pawb wedi mewn sioc ac wedi tristau o glywed am ei farwolaeth mewn amgylchiadau mor drasig.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu, ei ffrindiau, a’i gyd-weithwyr yn ystod y cyfnod trist iawn yma.”