Llun CCTV o'r ddau ddyn a allai fod wedi gweld yr ymosodiad ar Wayne Letherby
Mae Heddlu’r De, sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 42 oed yn Nhonypandy, wedi apelio o’r newydd am wybodaeth.

Bu farw Wayne Letherby yn dilyn ymosodiad difrifol yn Stryd De Winton, Tonypandy ar ddydd Gwener, 17 Ebrill.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau lluniau CCTV o ddau ddyn maen nhw’n ceisio eu hadnabod a gafodd eu gweld yn gadael tafarn y Pandy Inn ar noson yr ymosodiad.

Mae’r heddlu’n credu y gallai’r ddau ddyn fod wedi gweld yr ymosodiad yn Stryd De Winton ac yn eu hannog i gysylltu â’r heddlu.

Mae dau ddyn, Jamie Leyshon, 26, a Dean Dogget, 26, o Benygraig, eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Wayne Letherby.

Dylai unrhyw un sy’n adnabod y ddau ddyn yn y lluniau gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.