Mae saith o ffermwyr ifanc ledled Cymru wedi derbyn ysgoloriaethau teithio er mwyn hybu eu gwybodaeth am ffermio.

Bydd yr ysgoloriaethau yn cael eu cyflwyno yn Sioe Llanelwedd, gyda’r nawdd wedi ei anelu at gynorthwyo’r ffermwyr ifanc i ehangu eu gwybodaeth am amaethyddiaeth.

Ymhlith yr enillwyr mae Helen Joseph a Rebecca Price sydd ill dwy wedi derbyn £500 i gynorthwyo eu taith i Ganada.

Bydd Helen Joseph o’r Pil ger Pen-y-bont a Rebecca o Landdewi’r Cwm, ger Llanfair ym Muallt yn teithio ar daith tair wythnos i Ontario ym mis Tachwedd fel rhan o raglen ryngwladol Ffermwyr Ifanc Cymru. Byddant yn aros gyda theuluoedd fferm, gan ymweld â’r sioe aeaf sy’n cael ei gynnal yn Toronto.

‘Persbectif newydd’

Wrth ymateb, dywedodd Helen Joseph: “Dwi’n edrych ymlaen at dreulio amser yng Nghanada ac i ehangu fy ngwybodaeth o amaethyddiaeth a dwi’n gobeithio cael persbectif newydd o ffermio. Dwi hefyd yn awyddus i ddysgu am ffermwyr yng Nghanada sy’n arallgyfeirio eu busnes, gan edrych ar ba syniadau busnes ddaw o hynny.”

Bydd Rebecca Price yn edrych ymlaen at ddysgu am ffermio yng Nghanada,  meddai: “Dwi’n edrych ymlaen at ymweld â’r Ffair Aeaf yn Toronto er mwyn cymharu gyda Ffair Aeaf ni yn y Sioe Frenhinol. Dwi hefyd yn awyddus i ddysgu am dechnegau newydd ac arloesedd yng Nghanada, a fyddai’n ddefnyddiol imi ar y fferm deuluol.”

Ymhlith y gweddill a dderbyniodd ysgoloriaeth oedd Beca Glyn o Padog, ger Betws y Coed, Dyfan Ellis Jones o Bontnewydd, ger Aberystwyth, Angela Evans o Dregaron, Joseph Yeomans o Adfa ger y Drenewydd a Beth Lloyd o Lanynys, Dinbych.

Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei weinyddu gan undeb yr NFU.

Llwyddiannau ddoe

Owain Jones o fferm Castellmarch, Abersoch yw enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Bydd Owain Jones, sydd wedi graddio mewn Amaethyddiaeth yn Aberystwyth eleni yn cymryd yr awenau oddi wrth ddeiliaid presennol yr ysgoloriaeth, Tudur Parry, i ffermio’r fferm 614 erw yn Nant Gwynant.

Owain Jones yw trydydd deiliad yr ysgoloriaeth, a bydd yn rhedeg y fferm gan ofalu am y stoc am y flwyddyn nesaf.