Simon Thomas
Bydd Simon Thomas yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Mae Simon Thomas eisoes wedi ei ail-ethol fel prif ymgeisydd  Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth y Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad 2016.

Mae wedi cynrychioli’r rhanbarth mae fel Aelod Cynulliad ers cael ei ethol yn 2011.

Dywedodd Simon Thomas  ei fod “wrth ei fodd” bod aelodau’r blaid leol wedi ei ddewis.

‘Sedd bwysig’

Ychwanegodd Simon Thomas bod yn rhaid i Blaid Cymru ennill yr etholaeth yma os yw o “ddifrif” am ffurfio’r Llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Meddai: “Yn dilyn Llanelli, hwn yw’r etholaeth nesaf lle ma’ gennym ni siawns dda o ennill.

“Cred pobl leol mai brwydr rhwng y Torïaid a Phlaid Cymru fydd hi am y sedd ymylol yma.”

Dywedodd Simon Thomas fod ganddo dîm yn gweithio ar nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys cadw’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, cadw safle hofrennydd yr heddlu yn Sir Gaerfyrddin, gwella cysylltiadau trafnidiaeth a hybu’r economi.