Mae Plaid Cymru wedi dewis y darlledwr a seren y rhaglen realaeth ‘Big Brother’, Glyn Wise fel eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn etholaeth Canol Caerdydd.

Mae Glyn, sy’n byw yn Cathays, bellach yn diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ers gadael ‘Big Brother’, mae e wedi cyflwyno rhaglenni teledu a radio yn Gymraeg a Saesneg.

Yn dilyn y cyhoeddiad ei fod yn sefyll, dywedodd Glyn Wise: “Mae’n debyg y bydd yr etholiad y flwyddyn nesaf yn gyffrous iawn.

“Fe fydd pobol Cymru’n edrych am gyfle i fynd i gyfeiriad newydd yn ein gwlad, felly dw i wrth fy modd y byddaf i’n un o’r ymgyrchwyr hynny yn ein prifddinas.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael defnyddio fy arbenigedd wrth estyn allan i bobol ar draws yr holl gymunedau, a llawer iawn ohonyn nhw wedi’u dadrithio efo gwleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Dw i’n bwriadu defnyddio fy ngwybodaeth o gyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau’n gyffredinol i hyrwyddo neges Plaid Cymru ymhlith pleidleiswyr.

“Mae angen gwelliannau sylweddol o fewn y Gwasanaeth Iechyd fel nad oes angen i gleifion aros cyhyd i weld doctor neu i gael llawdriniaeth. Mae’r amserau aros presennol yn annerbyniol.

“Dw i’n dod o deulu dosbarth gweithiol ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd ac yn credu’n gryf fod Plaid Cymru’n cynrychioli ac yn amddiffyn hawliau’r dosbarth gweithiol orau.”