Mae dynes 70 oed a fu mewn gwrthdrawiad â lori mewn pentre’ yng Ngwynedd, wedi marw.

Fe ddigwyddodd y ddamwin ym mhentre’ Tal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, tua 4yp, ddoe.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am dystion i’r digwyddiad ar y gyffordd rhwng Ffordd Penllwyn a Stryd Cavour.

Doedd y wraig ddim yn teithio mewn car ar y pryd, ond yn hytrach yn mynd â’i chi am dro.