Mae Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol, wythnos ar ôl adroddiad beirniadol ar reolaeth y sefydliad.

Fe fydd Aled Gruffydd Jones yn gadael y mis nesa’ pan fydd yn 60 oed, ddwy flynedd ar ôl dod i’r swydd yn Aberystwyth.

Tros lawer o’r ddwy flynedd yna roedd y Llyfrgell mewn anghydfod gyda dau weithiwr a enillodd achos tribiwnlys am ddisgyblu ar gam.

Yr wythnos ddiwetha, yn sgil yr helynt hwnnw, fe gyhoeddwyd adroddiad yn berniadau agweddau o weinyddiaeth y Llyfrgell.

‘Dim angen’ meddai Elin Jones

Fe ddywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, nad oedd yn angenrheidiol iddo fod wedi penderfynu gadael ond ei body n parchu’r penderfyniad.

Fe ddywedodd wrth Radio Cymru fod angen i’r Llyfrgell ddysgu gwersi o’r helynt ac fe alwodd eto am ymddiheuriad gan y sefydliad i’r ddau gyn swyddog, Elwyn Williams ac Arwel ‘Rocet’ Jones.