Dolgellau
Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau yn croesi bysedd am dywydd da dros y penwythnos er mwyn caniatáu i’r torfeydd yn heidio i wrando ar y gerddoriaeth yno.

Yn canu heno bydd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr a 9Bach – enillwyr gwobr Albwm y Flwyddyn yng ngwobrau Canu Gwerin Radio 2.

Yn ôl un o’r trefnwyr mae cael noson agoriadol gref i’r ŵyl sy’n para tridiau yn bwysig i ddenu’r ymwelwyr.

“Mae tocynnau wedi gwerthu’n dda iawn ac mae disgwyl bydd nifer fawr o bobl yn troi i fyny i dalu wrth y drws,” meddai Emyr Lloyd.

“Does yna ddim dowt gen i y bydd Jarman yn eu tynnu nhw i mewn ac mi fydd hi’n llawn heno.

“Mae’r tywydd yn argoeli’n dda ac mae yna ddisgwyl bydd mwy o bobl yn troi i fyny eleni. “Am y tro cyntaf ers pump i chwe blynedd mae gynnon ni wersyll i ymwelwyr. Mae hyn y cynyddu nifer yr ymwelwyr.”

Mae Emyr Lloyd yn disgwyl gweld y sgwâr yn orlawn, gyda 500 i 600 o bobl yn mwynhau’r miwsig allan yn yr awyr agored.

Ychwanegodd: “Mae pawb yn edrych ymlaen at yr ŵyl ddechrau.”