Yr wythnos hon mae dyfodol y BBC wedi bod dan y chwyddwydr, gyda’r gwleidyddion yn trafod newid y ffordd mae’r Gorfforaeth yn cael ei hariannu.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale eisoes wedi awgrymu bod dyddiau’r ffi drwyddedu’n dod i ben, a’r wythnos hon fe awgrymodd y gallai pobl orfod tanysgrifio i’r BBC yn y dyfodol.

Mae’r pwysau ariannol ar y BBC hefyd wedi codi cwestiynau ynglŷn â chyllideb S4C, gyda chyn-bennaeth y sianel Gymraeg yn rhybuddio y gallai toriad o 10% fod ar y ffordd.

Petai’r BBC yn cael ei hariannu drwy danysgrifiad yn y dyfodol, beth fyddai hynny’n ei olygu i S4C? Fyddech chi’n fodlon tanysgrifio i wylio’r Sianel Gymraeg?

Ffi drwyddedu

Ar hyn o bryd rydyn ni i gyd yn gorfod talu ffi drwyddedu o £145.50 y flwyddyn, neu £12.13 y mis, i gael gwylio teledu.

Mae’r rhan fwyaf o’r arian hwnnw’n mynd i’r BBC er mwyn talu am ei gwasanaethau a’i rhaglenni, gydag S4C bellach yn derbyn y rhan fwyaf o’i chyllid hi oddi wrth y BBC.

Ond petai’r dull ariannu yn cael ei newid i drefn o  danysgrifio, faint fyddech chi’n fodlon dalu i wylio S4C?