Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi dweud bod ganddo “bryderon difrifol” am gynlluniau arfaethedig Llywodraeth y DU i gau dwsinau o lysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Fe allai hyd at 18 o lysoedd yng Nghymru gau wrth i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove fwrw ymlaen gyda’i gynlluniau i ddiwygio’r system gyfiawnder.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth heddiw y bydd yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chynlluniau i gau 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr tra y gallai 31 gael eu “hintegreiddio.”

Dywed gweinidogion nad oes digon o ddefnydd o’r adeiladau’n ac fe fydd y cynlluniau’n arwain at arbedion o fwy na £200 miliwn a allai gael ei wario ar foderneiddio llysoedd eraill.

‘Pryderon difrifol’

Ond mae Leighton Andrews wedi mynegi “pryderon difrifol.”

“Fe fydd y newidiadau yma yn effeithio’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas ac yn gwneud mynediad i gyfiawnder yn anoddach, yn enwedig i’r rhai mewn ardaloedd gwledig a rhai mewn cymunedau difreintiedig.

“Mae’n bwysig nad yw pellteroedd ac amseroedd teithio yn dod yn faich i’r rhai sy’n mynd i’r llys, os ydyn nhw’n ddiffynyddion, tystion, ffrindiau a theulu neu hyd yn oed yn ymgynghorwyr cyfreithiol.

“Fe fyddwn yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn datgan ein barn yn glir i Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, ni fyddai penderfyniad o’r fath wedi cael ei wneud petai’r system gyfiawnder wedi cael ei ddatganoli.”

Dywedodd y bargyfreithiwr ac AS Elfyn Llwyd ar y Post Prynhawn bod  y cynlluniau  “yn hollol groes i egwyddorion cyfiawnder, yn annerbyniol ac mae angen ail-feddwl.”

Llysoedd dan fygythiad

Yng Nghymru y llysoedd sydd dan fygythiad yw Llysoedd Ynadon Y Barri, Aberdâr, Llwynypia, Rhydaman, Aberteifi, Llanymddyfri, Dinbych, Pwllheli, Y Fflint, Cas-gwent, Abertyleri, Y Fenni a Llangefni.

Yn ogystal mae cynlluniau i gau’r Llysoedd Sirol yng Nghas-gwent, Aberdar, Y Rhyl, Pontypwl, a Llangefni.