Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod S4C yn galw am sicrwydd y bydd y cwmni yn parhau a’i gynlluniau i symud ei bencadlys o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Cafodd pryderon eu mynegi am gyllid y sianel yn y Cyngor yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed o 2018 ymlaen.

Amcangyfrifir y gallai’r penderfyniad  gostio hyd at £650 miliwn yn flynyddol i’r BBC ac yn ei hymdrech i wneud arbedion, y bydd y Gorfforaeth yn lleihau lefel y cyllid mae’n ei ddarparu i S4C.

Dywedodd arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Emlyn Dole, ei fod yn disgwyl i S4C wynebu toriadau o ryw 10% yn ei gyllideb flynyddol.

Mae bellach wedi ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, i ofyn am sicrwydd na fydd y cynllun  yn cael ei beryglu gan unrhyw arbedion pellach.

Mae S4C eisoes wedi gorfod torri 36% o’i gyllideb ers 2010.

Cefndir

Ym mis Hydref y llynedd, arwyddwyd cytundeb rhwng S4C a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gadarnhau’r bwriad o symud pencadlys y sianel o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Y brifysgol oedd y tu cefn i gais Caerfyrddin, a’u bwriad yw codi adeilad gwerth £8.2 miliwn ar gyfer pencadlys newydd i S4C mewn ‘Dyffryn Creadigol’ fydd hefyd yn gartref i Theatr Genedlaethol Cymru a’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg.

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn dod a 150 o swyddi i Gaerfyrddin ac yn hybu’r economi leol.

Pwysig i’r sir

Meddai arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw hi i ni fel sir fod y pencadlys newydd yn symud i Gaerfyrddin.

“Rydym yn hyderus y bydd adeilad pwrpasol ac eiconig newydd yn y dref yn gweithredu fel catalydd ar gyfer hyrwyddo datblygiad economaidd ar draws y rhanbarth, ac yn genedlaethol.

“Byddai’r cynllun yn arwain at tua 150 o swyddi a byddai’n helpu’r economi leol yn fawr.

“Byddai hefyd yn hwb mawr i’r iaith Gymraeg, gan ddarparu cyfleoedd gwaith o ansawdd da ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

“Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae pryder am y gostyngiadau cyllido sydd ar fin digwydd a’r effaith ddilynol ar y penderfyniad i symud S4C i’n sir.”

Heddiw, gofynnodd llefarydd y blaid Lafur ar ddiwylliant, Chris Bryant, am sicrwydd gan y llywodraeth am ddyfodol S4C  yn ystod trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â dyfodol y BBC a’r trafodaethau ynglŷn ag adnewyddu Siarter y gorfforaeth yn 2017.

‘Mor gadarn ag erioed’ – S4C

Mewn ymateb dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Gallaf gadarnhau bod bwriad Awdurdod S4C i symud pencadlys y sianel i Gaerfyrddin erbyn 2018 mor gadarn ag erioed.

“Mae’r ffactorau hynny sydd wrth wraidd ein cymhelliant i symud yn dal yn gadarn; sef dod â buddiannau ieithyddol, economaidd a diwylliannol i’r ardal, yn ogystal â buddiannau i’r gwasanaeth mae S4C yn ei ddarparu.”

Ychwanegodd: “Mae’n wir fod yna ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â beth fydd cyllid S4C maes o law ac rydym yn edrych ymlaen at drafodaethau buan gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â hynny.

“Ond o’r cychwyn, roedd yn amod o’r cynllun i symud i Gaerfyrddin y byddai hynny’n gost niwtral i ni dros gyfnod y prosiect, ac mae’r cyd-destun heriol newydd yma yn tanlinellu pwysigrwydd hynny.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole prynhawn ma ei fod yn croesawu’r sicrhad gan S4C y bydd yn cynllun yn mynd yn ei flaen.