Heddlu Dyfed Powys oedd y llu heddlu gyda’r gyfradd isaf o droseddu ar draws Cymru a Lloegr y llynedd, mae ffigurau newydd yn dangos.

Roedd troseddau a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed Powys ychydig o dan 38 i bob 1,000 o’r boblogaeth yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015.

Roedd hyn yn llai na hanner y nifer ar gyfer yr Heddlu Metropolitan, wnaeth gofnodi’r gyfradd troseddu uchaf ar gyfer yr un cyfnod.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys hefyd gofnodi’r nifer isaf o droseddau yn ymwneud a dwyn o siopau a lladrata, tra daeth yr Heddlu Metropolitan i’r brig ar gyfer y ddau.

Y gyfradd gyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015 oedd 62.9 o droseddau am bob 1,000 o’r boblogaeth -gostyngiad o 66 ar y flwyddyn flaenorol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref.

Dyma’r ffigurau ar gyfer y pum llu heddlu gyda’r cyfraddau troseddau uchaf ac isaf

Uchaf

1. Heddlu Metropolitan 84.7

2. Cleveland 75.1

3. Manceinion 73.8

4. Humberside 72.0

5. Glannau Mersi 70.1

Isaf

1. Dyfed-Powys 37.6

2. Gogledd Swydd Efrog  43.0

3. Surrey 43.7

4. Wiltshire 46.1

5. Dyfnaint a Chernyw 47.5