Yr ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr yn ymgynnull y tu allan i Ganolfan Porthmadog heno fel rhan o brotest yn erbyn cau rhai o lyfrgelloedd Gwynedd.

Dyna’r unig ffordd, medden nhw, gan gyhuddo’r Cyngor Sir o beidio â gwrando ar leisiau’r bobol.

Fe fyddan nhw’n codi baneri sy’n dangos cloriau amrywiaeth o lyfrau wrth i gynghorwyr gyrraedd y Ganolfan ar gyfer cyfarfod i drafod canlyniadau ymgynghoriad ynglŷn â chau wyth llyfrgell.

Mae hynny’n fwy na hanner yr 17 llyfrgell sydd yn y sir ar hyn o bryd.

‘Ddim yn gwrando’

Dyw cynghorwyr ddim yn gwrando, meddai Ben Gregory, un o’r ymgyrchwyr tros achub Llyfrgell Penygroes yn Nyffryn Nantlle.

Deuddydd cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, meddai, roedd Pennaeth Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd eisoes wedi cyflwyno llythyr i Aelod Seneddol Meirionnydd/ Dwyfor yn sôn am y toriadau oedd ganddyn nhw ar y gweill.

“Mae hyn yn codi cwestiynau mawr am ba mor barod oedd y Cyngor i wrando ar leisiau pobol y sir”, meddai Ben Gregory.

“Os nad yw’r Cyngor yn barod i siarad ymhellach â ni – rydyn ni’n barod i brotestio.”

Cefndir

Cyflwynodd Cyngor Sir Gwynedd yr argymhellion i gau’r llyfrgelloedd ym mis Rhagfyr 2014, gan nodi y gallen nhw arbed gwerth £169,000 y flwyddyn ar wasanaethau cyhoeddus drwy wneud hynny.

Ond, yn dilyn protest gan ymgyrchwyr ym mis Ionawr, fe gytunodd y Cyngor gynnal cyfnod o ymgynghoriad.

Fe gafodd sesiynau ‘galw heibio’ eu cynnal, gydag 143 o bobol yn mynd i’r cyfarfod ym Mhenygroes ddechrau Mehefin – am y drydedd flwyddyn, y llyfrgell yno sydd wedi gweld y cynnydd mwya’ yn nifer y bobol ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’r cyfrifiaduron yno.

‘Hollol annheg’

Ymhlith y llyfrgelloedd eraill sydd dan fygythiad, mae llyfrgelloedd Bethesda, Deiniolen, Nefyn a Harlech.

Ac yn ôl Ben Gregory, yr ardaloedd gwledig fyddai’n cael eu heffeithio waethaf.

“Mae angen iddyn nhw [Cyngor Gwynedd] edrych ar berfformiad ac ansawdd y llyfrgell”, meddai Ben Gregory.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, cynigiodd y Cyngor fod y llyfrgell yn cael ei rhedeg yn wirfoddol, gyda phobol leol yn cyfrannu at gynnal y gwasanaeth.

Ond, byddai hyn “yn hollol annheg”, yn ôl Ben Gregory, oherwydd heb lyfrgellydd profiadol, fe fyddai’r gwasanaeth yn “eilradd ac yn anaddas”.