Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ffordd i gyfeiriad y gogledd ar yr A449 rhwng Rhaglan a Brynbuga.

Digwyddodd y ddamwain tua hanner dydd heddiw pan wnaeth Honda Jazz coch wyro oddi ar y ffordd wrth geisio osgoi fan wen.

Mae’r fan wedi cael ei ddisgrifio fel un gyda rac to neu diwbiau ar y to neu’n dod allan ohoni.

Mae gyrrwr yr Honda Jazz – dynes 71 oed o ardal Taunton – wedi cael ei chludo i’r ysbyty ond nid yw ei wedi cael ei hanafu’n ddifrifol.

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a welodd un o’r cerbydau cyn y ddamwain, yn cael eu hannog i ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 155 14/7/15