Mae Heddlu De Cymru wedi cael ei feirniadu am ei ddiffyg ymwybyddiaeth o achosion posib o blant yn cael eu hecsbloetio’n rhywiol.

Mae adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) a gyhoeddwyd heddiw yn dweud nad oedd Heddlu’r De wedi ceisio ymchwilio i grŵp o ddynion a oedd wedi’u cyhuddo o ecsbloetio merch 15 mlwydd yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd, er gwaetha bod yn ymwybodol o gwynion.

Dywedodd yr arolygiad hefyd bod merch 15 mlwydd oed a gafodd ei threisio gan gyn ddisgybl heb gael ei chyfweld am bum mis a bod enghreifftiau o achosion difrifol, fel treisio ac ymosodiadau rhyw, yn cael eu trin gan swyddogion sydd ddim yn arbenigwyr mewn achosion o’r fath.

Roedd yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth wedi ymweld â Heddlu De Cymru ym mis Chwefror  a Mawrth eleni fel rhan o raglen o arolygiadau maen nhw’n ei gynnal i systemau amddiffyn plant ym mhob llu’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.

‘Angen gwneud mwy’

Dywedodd Arolygwr ei Mawrhydi, Dru Sharplin: “Mae Heddlu De Cymru yn amlwg yn ymrwymedig i wella gwasanaethau amddiffyn plant. Roeddem yn falch o ddod o hyd i enghreifftiau lle mae lles plant wedi bod o’r flaenoriaeth uchaf i swyddogion.

“Mae’r heddlu wedi cydnabod bod angen gwella ei ymateb i ecsbloetio plant yn rhywiol ac mae’n cymryd camau i ymdrin â hyn. Serch hynny, mae gan yr heddlu lawer mwy i’w wneud i ddeall natur ecsbloetio plant yn rhywiol yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

“Mae angen i ansawdd ac amseroldeb ymchwiliadau hefyd gael eu gwella ac mae hefyd angen i’r heddlu wella ei ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng plant sy’n mynd ar goll o gartref a’r risg o ecsbloetio’n  rhywiol.”

Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedden nhw’n gallu gwneud sylw am achosion unigol oherwydd bod ymchwiliadau ar y gweill, ond fe wnaethon nhw  gadarnhau fod “camau priodol eisoes wedi’u cymryd ac arestiadau wedi eu gwneud cyn i adroddiad HMIC gael ei ryddhau.”

Pryderon

Ar y cyfan, roedd yr arolygwyr yn pryderu am:

–          diffyg dealltwriaeth o ba mor aml mae ecsbloetio plant yn rhywiol yn digwydd ac ymateb anghyson ar draws ardal y llu heddlu;

–          bod ymyrraeth gynnar a chynllunio hirdymor rhwng asiantaethau ar gyfer plant sy’n mynd ar goll o’u cartref yn rheolaidd yn aneffeithiol;

–          bod plant yn cael eu cadw’n ddiangen yn y ddalfa dros nos.

Ond roedd yr arolygwyr hefyd yn fodlon bod  ymrwymiad clir i wella gwasanaethau ar gyfer plant sydd angen eu diogelu; bod staff sy’n gyfrifol am reoli ymchwiliadau cam-drin plant yn ymroddedig iawn, yn gweithio’n galed, yn wybodus ac yn ceisio’u gorau i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i blant; bod ymateb swyddogion yn gyflym a’u bod nhw’n gwneud ymholiadau cychwynnol trylwyr am ddiogelwch uniongyrchol plant; bod rheolaeth dda o droseddwyr rhyw cofrestredig;  a bod ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaethau.

Dywedodd HMIC eu bod nhw wedi gofyn i Heddlu De Cymru gyflwyno cynllun gweithredu iddyn nhw o fewn chwe wythnos sy’n nodi sut y bydd yn ymateb i’r argymhellion.

‘Amddiffyn plant yn flaenoriaeth’

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nikki Holland, fod yr adroddiad yn amlygu llawer o waith da’r heddlu a bod gwaith eisoes ar y gweill i wella’r gwendidau.

Meddai fod y Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ddiweddar  wedi comisiynu adolygiad i bob agwedd ar eu hymateb i gam-fanteisio’n rhywiol a’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda’u partneriaid.

Meddai Nikki Holland “Dyw Heddlu De Cymru ddim gwahanol i unrhyw lu’r heddlu arall o ran yr angen i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â galw, gallu ac adnoddau. Mae’r Arolygiaeth wedi nodi nifer o feysydd y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw ac rydym bellach wedi sefydlu rhaglen weithredu i gyflawni hyn.

“Mae’r heddlu yn gwbl ymrwymedig ac yn ymroddedig i amddiffyn plant ac mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth ddiamod yr ydym yn benderfynol o orfodi hyd eithaf ein gallu.”