Mae Taclo’r Taclau yn cynnig gwobr o £2,000 am wybodaeth am droseddwr rhyw “peryglus” sydd wedi bod ar ffo ers 2013.

Mae’r wobr yn cael ei gynnig am wybodaeth a fyddai’n arwain at arestio Brian Ward o Bont-y-clun.

Fe ddiflannodd Brian Ward, sy’n 58 oed, yn ystod achos yn Llys y Goron Casnewydd yn Nhachwedd 2013.

Er nad oedd yn bresennol yn y llys, fe’i cafwyd yn euog, ac o ganlyniad bu ymgyrch gan Heddlu De Cymru i chwilio amdano.

Mae gan Brian Ward gysylltiadau gyda Chaerdydd, Aberdâr a Chasnewydd, ynghyd â Surrey, Llundain a Malta.  Mae’r heddlu ar ddeall ei fod yn arddel sawl cyfenw megis Wood, Cordina, Bryant a Rose.

‘Peryglus’

“Mae Ward yn droseddwr rhyw peryglus,” meddai Cadeirydd Taclo’r Taclau yng Nghymru, Stuart Taylor, “ac mae’n allweddol ei fod yn cael ei ddal, er mwyn sicrhau nad yw’n troseddu eto.”
Ychwanegodd: “Mae yna bobl yn gwybod ble mae’n cuddio ond yn gyndyn i siarad gyda’r Heddlu. Rwy’n galw arnoch i rannu’r wybodaeth gyda Thaclo’r Taclau a hynny’n ddienw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano, gysylltu gyda Thaclo’r Taclau ar 0800 555 111.