Cyhoeddodd Plaid Cymru  y bydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sicrhau fod Cymru yn cynhyrchu 100% o’i anghenion trydan trwy ffynonellau adnewyddol erbyn 2035, os bydd yn ffurfio llywodraeth yng Nghaerdydd yn 2016.

Dim ond 10%  o drydan sy’n dod o ffynonellau adnewyddol ac mae Plaid Cymru wedi rhoi addewid i godi hynny i 100% ymhen 20 mlynedd.

Gydag etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf, dywedodd llefarydd ynni’r blaid, Llyr Gruffydd, y bydd Plaid Cymru yn amlinellu targedau ar gyfer pob un sector unigol, gyda mesurau i annog perchenogaeth gymunedol, er mwyn gostwng y defnydd.

Mae Llyr Gruffydd AC yn credu fod angen i Gymru symud i ffwrdd o losgi tanwyddau ffosil: “Mae Cymru yn genedl sy’n gyfoethog mewn ynni. Yr ydym yn cynhyrchu bron i ddwywaith cymaint o drydan ag yr ydym yn ei ddefnyddio, ond mae gormod o hynny yn dibynnu ar losgi tanwydd ffosil.

“Yr ydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y symudiad byd-eang tuag at ynni adnewyddol a mwynhau’r manteision sy’n deillio o hynny – ond ar hyn o bryd, nid ydym yn gwireddu ein potensial.”

‘Trawsnewid yr economi’

Ychwanegodd:  “O fewn 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, byddaf yn cyhoeddi llwybr tuag at gynhyrchu 100% o’n hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddol, ynghyd â chynllun gweithredu cynhwysfawr, yn rhoi manylion am sut a phryd y bydd pob sector yn cyfrannu at y targed hwn.”

Dywedodd Llyr Gruffydd y gall prosiectau ynni adnewyddol drawsnewid economi Cymru. Meddai:  “Mae’r cynigion ar gyfer y Morlyn Llanw, ym Mae Abertawe a mannau eraill yng Nghymru, yn arloesol ac fe allent drawsnewid sector ynni Cymru ac  economi Cymru.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael cymaint o fudd ag sydd modd o’r prosiectau hyn, gan ofalu bod cymunedau lleol yn elwa ohonynt a bod gweddill y wlad ar ei hennill o ganlyniad.”

Pan ofynnwyd i Blaid Cymru beth oedd oblygiadau’r cynlluniau ynni adnewyddol o ran atomfa Wylfa Newydd, dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn: “Mae cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer ynni adnewyddol yn rhai cyffrous, a thra fy mod yn gwthio’n galed am gael budd go iawn i bobl a chymunedau lleol Môn o ddatblygiad Wylfa Newydd, mae’n amlwg iawn y gall Cymru a Môn elwa’n sylweddol o ddatblygiadau ynni adnewyddol.

“Mae’n hanfodol bod y buddsoddiad yn cael ei wneud mewn datblygu’r cyfleon hynny.”