Dywed arweinydd y côr o Gymru a ddaeth mor agos i ennill Britain’s Got Talent fod ei ddyled i Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen yn enfawr.

Roedd Cefin Roberts yn siarad wrth baratoi i gyflwyno darllediad o gystadleuaeth Côr y Byd ar S4C heno.

“Roedden ni fel côr yn y ffeinal ein hunain y llynedd, ac yn cael y fraint o gystadlu. Llangollen oedd lle ddysgais i’r mwya ar fy siwrnai o arwain côr oherwydd y synau byd-eang a ffyrdd gwahanol o ganu,” meddai.

“Mae Eisteddfod Llangollen yn cymharu’n ffafriol iawn â’r safon uchaf yn y byd. Rydym wedi dysgu drwy gystadlu yn erbyn y goreuon.”

Côr y Byd yw un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Ryngwladol, lle bydd enillwyr cystadlaethau arbennig y corau ieuenctid, cymysg, meibion, merched a’r categori agored yn mynd benben â’i gilydd ar gyfer teitl Côr y Byd 2015 ynghyd â thlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000.

Uchafbwynt

“Dyma un o uchafbwyntiau cystadlaethau canu corawl yng Nghymru a Phrydain ac yn gystadleuaeth fyd-enwog,” meddai Cefin Roberts.

“Y pleser mwyaf dwi’n ei gael yw gweld amrywiaeth synau ac amrywiaeth repertoire – o’r adloniannol a’r heriol i’r annisgwyl. Oherwydd eu bod nhw i gyd yn cynrychioli’r gorau yn eu categorïau, rydych chi’n gweld canu corawl ar ei orau.

“Mae wastad pethau newydd bob blwyddyn ac mae’n rhaid disgwyl yr annisgwyl. Ond rhaid cyfaddef mai’r corau ieuenctid a chymysg sy’n dal fy niddordeb.

“Y cyngor sydd gen i yw bod rhaid mwynhau’r broses o gyrraedd y ffeinal. Pob lwc i bob côr sy’n cymryd rhan.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr cerddoriaeth Eisteddfod Llangollen, Eilir Owen Griffiths, “Mae gennym berfformwyr rhyngwladol o’r radd flaenaf o bob cwr o’r byd, ac mae hynny, ynghyd â’r holl liw a’r awyrgylch arbennig sy’n cael eu creu gan ein cystadleuwyr a’r croeso mawr y maen nhw’n ei fwynhau, yn gwneud hyn yn ddigwyddiad unigryw.”