Maldwyn John a Catrin Mara
Mae tocynnau yn gwerthu’n sydyn iawn o’r comedi No Wê yn ôl Cwmni Theatr Bara Caws.

Barry “Archie” Jones, sydd wedi ysgrifennu’r sioe glybiau ffraeth ac mae’r cast yn cynnwys Iwan Charles, Gwenno Elis Hodgkins, Maldwyn John a Catrin Mara.

Mae’r stori yn canolbwyntio ar yr ysbïwr ‘James Bondage 0069’ sydd angen teithio i ddinas Bangkok i daclo dyn drwg sydd eisiau dinistrio’r We.

“Mae’r tocynnau wedi bod yn gwerthu’n ffantastig,” meddai Linda Brown, gweinyddwraig Theatr Bara Caws.

“Roedd Neuadd Llanllyfni yn orlawn a Chlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog yn llawn dop gyda phobl yn sefyll yn y cefn.

“Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a heno a nos yfory mae’r sioe yn cael ei pherfformio yng Nghlwb Simdde Wen, Wylfa [ger Cemaes, Ynys Môn] ac mae bron iawn bob tocyn wedi ei werthu.

“Yr wsnos wedyn mae No Wê yng Nghaernarfon ac mae un  noson wedi gwerthu allan yn barod, felly mae’r noson glybiau yn mynd o nerth i nerth.”

Bydd y daith yn cyrraedd Porthmadog a Chaernarfon yr wythnos nesaf cyn dod i ben yn Neuadd Bentref Meifod adeg yr Eisteddfod Genedlaethol gyda pherfformiadau o Awst 4 i 7.

Am fwy o fanylion ffoniwch 01286 675869 neu 07880031302.