Un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru, Gareth Edwards gafodd y fraint o ganu’r gloch yn y Swalec SSE ar ddechrau trydydd diwrnod y prawf criced cyntaf yng Nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd Edwards, gafodd ei urddo’n farchog ddechrau’r flwyddyn, ei fod yn “brofiad gwych” cael bod yn rhan o’r achlysur.

Bellach, fe ddaeth yn draddodiad i wahodd enwogion i ganu’r gloch i alw’r chwaraewyr a’r dyfarnwyr allan i’r cae ar ddechrau profion criced yng Nghymru a Lloegr.

Cyn-chwaraewr rygbi’r Gleision a Chymru, Owen Williams gafodd yr anrhydedd ar y diwrnod cyntaf ddydd Mercher, tra bod un arall o fawrion rygbi Cymru, Jonathan Davies wedi cwblhau’r ddyletswydd ar yr ail ddiwrnod.

Fis Awst y llynedd, ychwanegodd Edwards ei enw at lythyr agored yn y Guardian oedd yn galw ar bobol yr Alban i bleidleisio dros aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ar ôl cyflawni ei ddyletswydd ar ymyl y cae heddiw, dywedodd Gareth Edwards wrth sianel YouTube Clwb Criced Morgannwg: “Roedd yn brofiad gwych cael gwneud hynny.

“Roedd yn hyfryd cael ei wneud e yn fy ninas fy hunan, fel petai.

“Fel Cymro, dw i’n eithriadol o falch o’n holl orchestion yn y byd chwaraeon. Mae gweld prawf y Lludw yma yng Nghaerdydd yn beth anghredadwy.”