Oergell aflan ym Mhorthmadog
Mae perchennog bwyty ym Mhorthmadog wedi cael £5,000 o ddirwy gan ynadon ar ôl cael ei ganfod yn euog o sawl trosedd hylendid bwyd.

Plediodd David Alexander Paton, perchennog bwyty’r Harbour Restaurant ym Mhorthmadog, yn euog i saith trosedd hylendid bwyd yn Llys Ynadon Caernarfon.

Bydd Mr Paton yn gorfod talu costau a £1,281.40 yn ogystal â £120 o dâl ychwanegol i’r dioddefwr ar ben y £5,000 o ddirwy.

Roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi dwyn yr achos yn erbyn David Alexander Paton wedi iddyn nhw ddarganfod swm sylweddol o fwyd wedi llwydo a safonau hylendid gwael.

Cafwyd Mr Paton yn euog o fethu gweithredu System Rheoli Diogelwch Bwyd o fewn y busnes.

Risg clir i gwsmeriaid

Yn dilyn yr achos dywedodd Alun Evans, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd: “Daeth swyddogion ar draws amgylchiadau ym mwyty’r Harbour Restaurant  oedd yn peri risg clir a sylweddol i iechyd y cwsmeriaid. Rydym yn croesawu’r gosb a orfodid gan yr Ynadon ac yn credu ei fod yn gyfle amserol i atgoffa busnesau bwyd o’r angen i gydymffurfio a’r gyfraith.”