Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Mae’r BBC ac ITV wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i sicrhau hawliau darlledu ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nes 2021.

Bydd y ddwy sianel yn dangos gemau’r gystadleuaeth am yn ail, mewn cytundeb sydd yn dechrau o 2016 ymlaen.

Roedd y BBC wedi wynebu her gan Sky Sports oedd hefyd wedi ceisio prynu hawliau darlledu ar gyfer y gystadleuaeth.

Ond byddai hynny wedi golygu bod yn rhaid talu i wylio’r gemau, gyda chefnogwyr a gwleidyddion yn gwrthwynebu’r posibiliad.

Bodloni’r gwylwyr

Fe wyliodd dros 24miliwn o bobl ym Mhrydain y bencampwriaeth eleni, gyda 1.9m o’r rheiny o Gymru.

Mae’n debyg bod y cytundeb newydd rhwng BBC ac ITV werth £50m y flwyddyn, gyda rhywfaint o’r arian hwnnw’n cael ei ddosbarthu i undebau rygbi’r gwledydd sydd yn cystadlu.

Mae’r cytundeb newydd, fodd bynnag, yn golygu bod y BBC yn colli ei hawliau i ddarlledu’r twrnament yn ecsgliwsif.

Roedd ei chytundeb presennol i ddarlledu gemau’r bencampwriaeth yn para nes 2018, ond yn dilyn y cytundeb heddiw fe fyddan nhw’n rhannu’r hawliau ag ITV o flwyddyn nesaf ymlaen.

S4C

Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n parhau i fod â hawliau i ddangos unrhyw gemau mae’r BBC yn eu darlledu o’r Chwe Gwlad ar y sianel Gymraeg hefyd.

Ychwanegodd y sianel y byddan nhw’n parhau i gynnal trafodaethau ynglŷn ag “unrhyw hawliau pellach”, gan gynnwys o bosib sicrhau y bydd ganddyn nhw hawl i ddangos unrhyw gemau Cymru fydd ar ITV.”

Croesawu

Mae Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud bod y blaid wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y posibilrwydd  o dalu i wylio’r gemau.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi helpu i ddwyn perswâd ar benaethiaid y Chwe Gwlad bod angen i’n rygbi aros ar deledu am ddim. Mae’n ymddangos nad oes bygythiad bellach i’r traddodiad teuluol o eistedd i lawr gyda’n gilydd a gwylio’r rygbi.

“Roedd miloedd o bobl wedi ymuno a ni yn ein hymgyrch i wrthwynebu unrhyw gam tuag at gytundeb fyddai’n golygu talu i wylio’r gemau oherwydd maen nhw’n gwybod pa mor bwysig yw’r twrnament i ddiwylliant ein cenedl.

“Y cam nesaf yw sicrhau na fydd y bygythiad yma’n codi eto, gan sicrhau bod y Chwe Gwlad yn parhau ar deledu am ddim.”