Mae mudiad iaith wedi galw ar Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, i “egluro ei agwedd” pan mae’n dod at Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth.

Ddoe bu Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn feirniadol o’r strategaeth addysg, sydd i fod i sicrhau bod cynghorau yn darparu digon o lefydd ysgol ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Meri Huws yn mynegi ei phryderon wrth iddi hi a’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol.  Dywedodd Meri Huws nad oedd modd sicrhau fod awdurdodau lleol yn gweithredu eu polisïau, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gamu mewn pan fo angen.

Angen ‘targedau penodol’

Awgrymodd Huw Lewis nad oedd angen bod yn glwm wrth ffigyrau am y ddarpariaeth addysg, gan ddweud wrth y pwyllgor hefyd ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud pa mor effeithiol roedd y system wedi bod.

Ond yn ôl Dyfodol i’r Iaith mae angen i’r gweinidog wneud ei safbwynt yn gliriach, gan fod twf addysg Gymraeg yn un o elfennau pwysicaf adfywio’r iaith.

“Mae angen i’r Gweinidog Addysg ddweud yn glir beth yw ei farn am Strategaeth Addysg Gymraeg ei Lywodraeth ei hun,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Mae’r Strategaeth yn nodi targedau penodol ynglŷn â thwf addysg Gymraeg, ond nid yw’r Gweinidog fel pe bai’n poeni am hyn. Tybed ydy’r Gweinidog wedi ymgynghori gyda’r Prif Weinidog am hyn, sydd hefyd yn gyfrifol am yr iaith?

“Mae’r Gweinidog Addysg yn honni y bydd y cwricwlwm newydd yn newid ein ffordd o feddwl am addysg Gymraeg.  Ydy hyn yn golygu diwedd ysgolion Cymraeg?

“Yng Nghymru, bu pob cynnig ar ddysgu’r Gymraeg mewn dosbarthiadau dwyieithog yn fethiant o’u cymharu â dosbarthiadau Cymraeg.  Mae angen i Huw Lewis ddweud yn glir beth yw ei fwriadau.”

Her

Mewn ymateb cyfaddefodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod her yn eu hwynebu o hyd wrth geisio sicrhau bod y strategaeth iaith yn cael ei weithredu gan y cyrff perthnasol.

“Mae’r Gweinidog Addysg a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyflawni ein strategaeth addysg cyfrwng Gymraeg a sicrhau bod yr iaith yn ffynnu,” meddai’r llefarydd.

“Wythnos nesaf fe fyddwn ni’n cyhoeddi ein pumed adroddiad blynyddol ar weithredu’r strategaeth fydd yn dangos ein perfformiad ni yn y maes yma.

“Rydyn ni hefyd wedi comisiynu adolygiad annibynnol o’r strategaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ac fe fyddwn ni’n adolygu canfyddiadau’r adroddiad cyn penodi cyfeiriad cam nesaf y strategaeth.

“Un o’r heriau rydyn ni’n ei wynebu yw sicrhau bod y prosesau cynllunio rydyn ni wedi sefydlu yn cael eu plannu, gweithredu a’u gwireddu ac mae hyn galw ar awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr addysg yn y gwaith a phartneriaid eraill i chwarae eu rhan.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru ac fe fydd yr iaith Gymraeg yn allweddol i newidiadau fydd yn cael eu gwneud i’r system addysg.”