Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws
Mae disgwyl i Gomisiynydd y Gymraeg feirniadu strategaethau addysg Gymraeg awdurdodau lleol wrth iddi roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw.

Bydd Meri Huws yn awgrymu y dylai fod gan y Llywodraeth “rym gorfodi” i fynd i’r afael a methiannau cynghorau i ddarparu digon o leoedd addysg Gymraeg.

Bydd hi hefyd yn dweud fod problemau gyda Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol, gan nad yw darpariaeth addysg Gymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Meri Huws, a’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn rhoi tystiolaeth ar gynlluniau addysg Gymraeg i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Mae’r Cynulliad ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ers mis Ebrill 2014, mae awdurdodau lleol wedi gorfod creu strategaethau i ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg er mwyn sicrhau fod gweledigaeth y Llywodraeth yn cael ei gwireddu.

‘Dim twf mewn addysg Gymraeg’

Ond bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dweud fod nifer llai o ddisgyblion yn cael eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 74,277 o blant a phobl ifanc Cymru’n derbyn eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn 2010/11 – sef 15.9% o holl ddisgyblion Cymru.  Erbyn 2013/14 roedd y ffigwr yn 72,868 neu 15.7%.

Mae disgwyl i Meri Huws ddweud mai’r “system addysg yw prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd” erbyn hyn, ac y byddai twf y Gymraeg yn y dyfodol yn “ddibynnol i raddau helaeth” ar dwf addysg Gymraeg.

Meddai Meri Huws: “Awgryma’r dystiolaeth uchod na fu twf  mewn addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y galw cynyddol a welwyd am addysg Gymraeg.

“O ystyried y collir rhai miloedd o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn am resymau amrywiol, ni chredwn y gwelir cynnydd yn  nifer y  siaradwyr Cymraeg heb gyfundrefn addysg sy’n cynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg newydd.”

Protest Wrecsam

Bu ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn Wrecsam yn cynnal protest tu allan i neuadd y dref wythnos diwethaf gan gyflwyno deiseb i’r cyngor yn galw am ragor o ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir.

Daeth y brotest yn dilyn cyhoeddi llythyr beirniadol gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, am strategaeth ysgolion Cymraeg y sir.

Yn y llythyr, gafodd ei anfon ar 18 Mehefin i arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, mae Huw Lewis yn dweud ei fod wedi derbyn nifer o sylwadau gan “ACau, rhieni a rhan-ddeiliaid allweddol eraill am anallu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu digon o leoedd dosbarth derbyn cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg ei fod yn “arbennig o siomedig” nad yw cyflwyno Cynlluniau Strategol statudol wedi arwain at welliannau a bod y sefyllfa bresennol yn Wrecsam yn dangos “diffyg cynllunio digonol amlwg.”