Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i lofruddiaeth  dyn 31 oed fu farw yn dilyn  ymosodiad difrifol yn Llandrindod ddoe.

Bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn Stryd Temple yn y dref yn oriau man  bore dydd Sul.

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth neu a oedd yn yr ardal rhwng 11yh nos Sadwrn, 4 Gorffennaf a 4.15yb dydd Sul, 5 Gorffennaf i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.

Mae Stryd Temple a Heol Grosvenor bellach wedi ail-agor ar ôl cael eu cau am rai oriau ddoe.