Liz Kendall, Andy Burnham, Jeremy Corbyn, a Yvette Cooper
Fe fydd y pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur yn dod i Gaerdydd yn ddiweddarach heddiw er mwyn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae Andy Burnham, Jeremy Corbyn, Yvette Cooper a Liz Kendall yn gobeithio olynu Ed Miliband fel arweinydd nesaf y Blaid Lafur.

Fe ymddiswyddodd Miliband yn dilyn canlyniadau trychinebus y blaid yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Bydd enillydd y bleidlais ymhlith aelodau Llafur yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.

Fe fydd yr hustyngau yn cael eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd am 11.30 bore ma.

Bydd cyfarfod tebyg hefyd i’r ymgeiswyr am y dirprwy arweinyddiaeth.  Y rhai sy’n gobeithio olynu Harriet Harman i’w swydd yw  Ben Bradshaw, Stella Creasy, Angela Eagle, Caroline Flint a Tom Watson.