Jana Mazorkawatz
Mae merch a gafodd ei riportio ar goll yn nhre’ Llanelli, wedi cael ei chanfod yn ddiogel.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn chwilio am Jana Mazorkawatz, 16, wedi i’w theulu a’i ffrindiau ddweud nad oedd neb wedi ei gweld ers nos Iau.

Ond mae’r ferch o dras Bwylaidd bellach yn ddiogel, meddai Heddlu Dyfed-Powys.