Irfon Williams yn derbyn triniaeth
Mae Carwyn Jones wedi gwneud tro pedol a bellach mae’n awyddus i gwrdd â dyn sydd wedi gorfod mynd i Loegr i dderbyn triniaeth ar gyfer canser y coluddyn.

Ar lawr y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gweld pwrpas mynd i gyfarfod Irfon Williams, er bod y tad i bump o Fangor wedi gwella’n arw ers cael ei drin gan feddyg dros Glawdd Offa.

Neithiwr, fe ddaeth galwad o swyddfa Carwyn Jones i gartref Irfon Jones yn dweud fod y Prif Weinidog wedi ail-ystyried yr hyn ddywedodd yn y Senedd, a’i fod eisiau cwrdd wyneb yn wyneb o fewn y pythefnos nesaf.

Newidiadau

Ar ôl ymgyrch hir i gael ei drin yng Nghymru, wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrthod talu am y cyffuriau roedd o’u hangen, bu’n rhaid i Irfon Williams fynd dros y ffin i gael ei drin.

Mae nawr yn derbyn ei driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion.

“Ges i alwad gan swyddfa Carwyn Jones neithiwr. Mae o wedi newid ei feddwl ac wedi gofyn a fyddai’n cael cyfarfod hefo ni yn y pythefnos nesa. Dw i’n falch iawn,” meddai Irfon Williams.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod gwleidyddion a phobol yn y maes iechyd yn gwrando ar brofiadau cleifion, a bod hynny wedyn yn cael rhyw fath o ddylanwad ar eu polisïau.

“Fyswn i’n licio iddo feddwl am y broses IPFR (cronfa arian i gleifion unigol) a’i wneud o’n fwy cefnogol i deuluoedd a fyswn i hefyd yn licio iddo ddeall nad yw bob person yr un fath.

“ Yn fy achos i dw i wedi ymateb yn dda i’r cyffur, ac maen nhw’n galw hynny yn achos ‘eithriadol’. Ond dw i’n meddwl bod angen i’r llywodraeth roi diffiniad clir o’n union beth sy’n gwneud rhywun yn ‘eithriadol’.”