Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £800,000 ar adnewyddu Castell Caernarfon.

Daw dros 200,000 i weld yr atyniad pob blwyddyn ac mae’n cael ei ystyried yn un o brif atyniadau twristiaeth Cymru ac un o Safleoedd Treftadaeth Byd.

Hefyd mae’n cael ei ddefnyddio’n achlysurol ar gyfer gigs Cymraeg – bydd Geraint Jarman a Meic Stevens yn canu yno ar nos Sadwrn, Gorffennaf 18.

Yr adnewyddu

Mae’r gwelliannau’n cynnwys mynedfa newydd wydr a chyfarpar i addysgu ymwelwyr am hanes y castell. Atyniad amlwg arall fydd bwrdd gwyddbwyll mawr, gyda cherfluniau o’r prif bobol oedd yn cystadlu i reoli Cymru o 1066 i 1282.

Twristiaeth treftadaeth

Wrth ymweld â’r castell, dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Bydd y gwelliannau i’r cyfleusterau yn cael effaith wirioneddol ar y profiad i’r ymwelwyr, ac rwy’n hynod falch o weld hanesion pwerus y lle pwysig hwn yn cael eu hadrodd mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

“Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a nodedig, ac felly mae twristiaeth treftadaeth yn gwneud cyfraniad mawr i economi’r dref.”