Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am ragor o wybodaeth yn dilyn damwain nos Iau rhwng car a beic modur.

Cafodd ffordd y B4319 yn Sir Benfro, rhwng Penfro a Maidenwells, ei chau neithiwr yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Mitsubishi Shogun llwyd a beic modur Kawasaki du, ond mae hi bellach wedi ailagor.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn oedd yn gyrru’r beic modur wedi ei ladd yn y ddamwain, a ddigwyddodd am tua 8.10yh dydd Iau.

Ychwanegodd swyddogion eu bod yn apelio ar unrhyw un welodd y ddamwain neu sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu â PC 454 Longhurst wrth ffonio 101.