Mae’r heddlu fu’n chwilio am ddyn oedrannus o Flaenau Gwent ar Ynys Wyth wedi dod o hyd i gorff.

Diflanodd Michael Davies, 71, tra roedd e ar ei wyliau gyda’i wraig ym mis Mai.

Cafodd corff ei ddarganfod ar gorstir yn Sandown oddeutu 3 o’r gloch brynhawn Mercher.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae teulu Michael Davies wedi cael gwybod.

Dydy Heddlu Swydd Hampshire ddim yn trin yr achos fel un amheus.